Marine Futures North Wales Internships (2 vacancies)

 

Salary: £12.00p/h (Real Living Wage) with a 6% Employer Pension Contribution
Working Hours: Full Time (35hrs per week) 17th June – 13th December 2024
Location: Both Internships will be primarily based at NWWT HQ in Bangor with a mixture of fieldwork across North Wales and some travel to London and Cardiff.

The Marine Futures North Wales Internship programme offers a unique opportunity for candidates interested in a career in the marine environment to gain skills, knowledge and experience across a variety of marine sectors; helping to inform and shape future career opportunities.

The Programme is funded by The Crown Estate, project managed by North Wales Wildlife Trust and run in partnership with The Crown Estate, M-SParc and Menter Môn. Each partner organisation provides opportunities for the intern to develop on-the-job skills in specialist areas including, marine conservation advice, sustainable fisheries, renewable energy development, marine policy, and community engagement. Through the programme the intern will be offered experience and a balanced view on a career in the marine environment and how different sectors can work together. The intern will get the chance to undertake an independent research project focussing on a topic that is relevant to all partners. Additional activities will include stakeholder engagement, creating virtual educational outreach materials and ecological fieldwork.

The successful interns will follow a varied schedule that will allow them to gain a range of skills and experiences including:

  • working with a variety of teams across different sectors
  • writing for different audiences
  • working with local communities to raise awareness about environmental issues
  • undertaking surveys
  • the use of social media in the workplace
  • delivering media interviews and presentations
  • participating in online meetings, training and webinars.

The two interns will also get the chance to undertake a joint research project, looking into a practical topic of relevance to all partner organisations. This will involve working with different teams across the partner organisations.

We are looking for two interns who can build on their existing skills and knowledge to make the most of this unique experience. Applicants should have a good understanding of current marine issues and some experience working or volunteering within the marine sector. Most importantly, we are looking for candidates who are passionate and enthusiastic about the marine environment have a willingness to learn, are organised, self-motivated, and can work well within a team both remotely and in person.

It is essential that the successful candidates have an understanding of Welsh culture and language with an ability to work within a bilingual team and a willingness to learn. The ability to speak Welsh is preferred and this is a weighted criterion.

Please note that, as these posts are exempt from the Rehabilitation of Offenders Act 1974, a satisfactory enhanced level Disclosure and Barring Service (DBS) Disclosure check will be required for the successful candidates along with a current driver’s licence.

A full Internship description and application form is available from www.northwaleswildlifetrust.org.uk/jobs

Closing date: 26th April 2024 at 12noon
Interviews to be held: 15th/16th of May 2024


Interniaethau Dyfodol Morol Gogledd Cymru X2

Cyflog: £12.00 yr awr (Cyflog Byw Real) gyda Chyfraniad Pensiwn Cyflogwr o 6%
Oriau Gwaith: Llawn Amser (35 awr yr wythnos) yn y cyfnod o 17fed o Fehefin – 13fed o Ragfyr 2024
Lleoliad: Bydd y ddwy Interniaeth wedi’u lleoli yn bennaf ym Mhencadlys YNGC ym Mangor gyda chymysgedd o waith maes ar draws Gogledd Cymru a rhywfaint o deithio i Lundain a Chaerdydd.

Mae’r rhaglen Interniaeth Dyfodol Morol yn cynnig cyfle unigryw i ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn gyrfa yn yr amgylchedd morol ddysgu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ar draws amrywiaeth o sectorau morol, gan helpu fel sail i lunio cyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol.

Cyllidir y Rhaglen gan Stad y Goron ac mae’n cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a chaiff ei gweithredu mewn partneriaeth â Stad y Goron, M-SParc a Menter Môn. Mae pob sefydliad partner yn darparu cyfleoedd i’r intern ddatblygu sgiliau yn y gwaith mewn meysydd arbenigol, gan gynnwys cyngor cadwraeth forol, pysgodfeydd cynaliadwy, datblygu ynni adnewyddadwy, polisi morol, ac ymgysylltu â chymunedau. Drwy’r rhaglen bydd yr intern yn cael cynnig profiad a golwg gytbwys ar yrfa yn yr amgylchedd morol a sut gall gwahanol sectorau gydweithio. Bydd yr intern yn cael cyfle i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol yn canolbwyntio ar bwnc sy’n berthnasol i bob partner. Bydd gweithgareddau ychwanegol yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, creu deunyddiau allgymorth addysgol rhithwir a gwaith maes ecolegol.

Bydd yr interniaid llwyddiannus yn dilyn amserlen amrywiol a fydd yn caniatáu iddynt ddysgu ystod o sgiliau a chael profiadau amrywiol, gan gynnwys:

  • gweithio gydag amrywiaeth o dimau ar draws gwahanol sectorau
  • ysgrifennu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
  • gweithio gyda chymunedau lleol i godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol
  • cynnal arolygon
  • y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn y gweithle
  • cyflwyno cyfweliadau a chyflwyniadau gyda’r cyfryngau
  • cymryd rhan mewn cyfarfodydd, hyfforddiant a gweminarau ar-lein.

Bydd y ddau intern yn cael y cyfle hefyd i ymgymryd â phrosiect ymchwil ar y cyd, gan edrych ar bwnc ymarferol sy’n berthnasol i bob sefydliad partner. Bydd hyn yn golygu gweithio gyda thimau gwahanol ar draws y sefydliadau partner.

Rydym yn chwilio am ddau intern a all adeiladu ar eu sgiliau a’u gwybodaeth bresennol i wneud y gorau o’r profiad unigryw yma. Dylai’r ymgeiswyr fod â dealltwriaeth dda o faterion morol cyfredol a rhywfaint o brofiad o weithio neu wirfoddoli yn y sector morol. Yn bwysicaf oll, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n angerddol ac yn frwdfrydig am yr amgylchedd morol ac sy’n barod i ddysgu, yn drefnus, yn llawn hunangymhelliant, ac yn gallu gweithio’n dda o fewn tîm, o bell ac wyneb yn wyneb.

Mae’n hanfodol bod gan yr ymgeiswyr llwyddiannus ddealltwriaeth o ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg, gyda’r gallu i weithio o fewn tîm dwyieithog ac yn ymrwymo i ddysgu’r iaith os yn ddysgwr. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ac yn faen prawf pwysig.

Sylwch, gan fod y swyddi hyn wedi’u heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974, bydd angen archwiliad Datgeliad lefel uwch boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus, ynghyd â thrwydded yrru gyfredol.

Mae disgrifiad llawn ynghyd a ffurflen gais ar gael o https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/jobs

Dyddiad cau: 26fed o Ebrill 2024 am 12 Hanner Dydd
Cyfweliadau i’w cynnal: 15fed/16fed o Fai 2024

No Comment

Comments are closed.