Appointment of a Non-Executive PCF Director
Pembrokeshire Coastal Forum
Closing date: Monday 23 June 2025
Pembrokeshire Coastal Forum (PCF) is seeking a Non-Executive Director to become part of the Board of our Community Interest Company. The Directors will drive the next phase of the organisation’s development, both within and outside Pembrokeshire, by maximising opportunities in relation to sustainable coastal management; marine renewables; sustainable recreation and social prescribing; climate change; aquaculture and stakeholder engagement.
This is an excellent opportunity to be part of an exciting and innovative Community Interest Company based in the UK’s only coastal National Park. Bring along your ideas and innovations, help deliver award winning outcomes, and make a genuine change to local and wider society.
At PCF we inspire, collaborate and deliver solutions through a collaborative portfolio of work. Our values mean everything, and we expect them to be important to you.
At PCF, we are proud to be an equal opportunities employer, fostering an inclusive workplace where diversity is celebrated, and all individuals are valued.
You can read more about PCF in our Impact Report.
What we are looking for:
PCF is seeking applications from individuals, ideally based in Pembrokeshire or with working experience of the county, with skills and experience in the following areas:
- Coastal recreation;
- Coastal management;
- Public sector experience/engagement;
- Marketing and public relations;
- Sustainability.
A little more about the role:
Remuneration:
The role as PCF Non-Executive Director is unpaid and reasonable (travel) expenses will be covered.
Time Commitment:
Attendance at four PCF Board meetings in Pembrokeshire (four quarterly meetings a year, each lasting four hours); attendance at other PCF events, as necessary; preparation and reading time for Board meetings; ad-hoc discussion and correspondence outside of the Board meeting schedule.
To apply:
Please send a CV and a personal statement of no more than two sides outlining how you can contribute to the future development of PCF to our Finance and HR Director James Dyer: James.Dyer@pembrokeshirecoastalforum.org.uk by Monday 23rd June, 12:00 Noon.
If you would like an informal conversation about Pembrokeshire Coastal Forum please contact James.Dyer@pembrokeshirecoastalforum.org.uk
As with any company, the Non-Executive Directors of a CIC occupy an important position of trust, and company law imposes on them a range of duties. The Directors are responsible for ensuring that the CIC meets its statutory and other obligations. The Companies Act 2006 codifies the general duties which Directors owe to the company.
Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol
Fforwm Arfordir Sir Benfro
Mae Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF) yn chwilio am Gyfarwyddwr Anweithredol i ddod yn rhan o Fwrdd ein Cwmni Buddiannau Cymunedol. Bydd y Cyfarwyddwyr yn gyrru cam nesaf datblygiad y sefydliad, o fewn Sir Benfro a thu allan iddi, trwy wneud y mwyaf o gyfleoedd mewn perthynas â rheoli arfordirol cynaliadwy; ynni adnewyddadwy morol; hamdden cynaliadwy a rhagnodi cymdeithasol; newid hinsawdd; dyframaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o Gwmni Buddiannau Cymunedol cyffrous ac arloesol sydd wedi’i leoli yn unig Barc Cenedlaethol arfordirol y DU. Dewch â’ch syniadau a’ch arloesiadau, helpwch i gyflawni canlyniadau arobryn, a gwnewch newid gwirioneddol i gymdeithas leol ac ehangach.
Yn PCF rydym yn ysbrydoli, yn cydweithio ac yn cyflawni atebion trwy bortffolio gwaith cydweithredol. Mae ein gwerthoedd yn golygu popeth i ni, ac rydym yn disgwyl iddynt fod yn bwysig i chi.
Yn PCF, rydym yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal, gan feithrin gweithle cynhwysol lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, a lle mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi.
Gallwch ddarllen mwy am PCF yn ein Hadroddiad Effaith.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano:
Mae PCF yn chwilio am geisiadau gan unigolion, yn ddelfrydol wedi’u lleoli yn Sir Benfro neu sydd â phrofiad gwaith yn y sir, gyda sgiliau a phrofiad yn y meysydd canlynol:
- Hamdden arfordirol
- Rheoli arfordirol
- Profiad/ymgysylltu â’r sector cyhoeddus
- Marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
- Cynaliadwyedd
Ychydig mwy am y rôl:
Tâl:
Mae rôl Cyfarwyddwr Anweithredol Fforwm Arfordir Sir Benfro yn ddi-dâl a bydd treuliau (teithio) rhesymol yn cael eu talu.
Ymrwymiad Amser:
Mynychu pedwar cyfarfod Bwrdd Fforwm Arfordir Sir Benfro yn Sir Benfro (pedwar cyfarfod chwarterol y flwyddyn, pob un yn para pedair awr); mynychu digwyddiadau eraill Fforwm Arfordir Sir Benfro, yn ôl yr angen; amser paratoi a darllen ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd; trafodaeth a gohebiaeth ad hoc y tu allan i amserlen cyfarfodydd y Bwrdd.
I wneud cais:
Anfonwch CV a datganiad personol o ddim mwy na dwy ochr yn amlinellu sut y gallwch gyfrannu at ddatblygiad Fforwm Arfordir Sir Benfro yn y dyfodol at ein Cyfarwyddwr Cyllid ac AD, James Dyer: James.Dyer@pembrokeshirecoastalforum.org.uk erbyn Dydd Llun 23 Mehefin, 12:00 hanner dydd.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am Fforwm Arfordir Sir Benfro, cysylltwch â James.Dyer@pembrokeshirecoastalforum.org.uk
Fel gydag unrhyw gwmni, mae Cyfarwyddwyr Anweithredol Cwmni Buddiannau Cymunedol (CBC) yn meddiannu safle pwysig o ymddiriedaeth, ac mae cyfraith cwmnïau yn gosod ystod o ddyletswyddau arnynt. Mae’r Cyfarwyddwyr Anweithredol yn gyfrifol am sicrhau bod y CBC yn cyflawni ei rwymedigaethau statudol a rhwymedigaethau eraill. Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn codio’r dyletswyddau cyffredinol sy’n ddyledus gan Gyfarwyddwyr Anweithredol i’r cwmni.