This exciting role will focus mainly on our marine energy portfolio but will also support our wider coastal work

Communications Coordinator – Marine Energy

Working Hours: 30 hours/week – open to discussion
Salary: £28,000-£30,000 FTE pro rata
Benefits: Pension scheme, Healthshield, Time off in lieu
Responsible to: Communications Manager
Location: Pier House, Pier Road, Pembroke Dock, SA72 6TR – Currently working hybrid
Work with: MEW Team, Managing Director

Principal Responsibilities

You will be working with the Marine Energy Wales team to implement the communications plan, ensuring communications are consistently delivered to our stakeholders and members ensuring effective communication on events, meetings, conferences, as well as strategic and member news and policy.

You will be responsible for delivering the marketing and communications strategy for our pre-consented Marine Energy Test Area (META) project ensuring effective delivery of messaging for target audiences.

This is a fast-paced, complex and diverse role, with a broad remit, including media, PR, events and marketing content and is key to the function of Marine Energy Wales. You will be central to all the activities, news, projects and plans and you will need to be self-managing your time to produce daily, weekly and monthly project deliverables.

We are looking for someone who is able to cope with multiple project demands and react quickly whilst keeping a handle on the bigger picture and helping us to achieve our objectives.

Tasks will include:

  • Implementing and developing the META and MEW communications plans
  • Liaising with Pembroke Dock Marine project partners to ensure META representation and promotion of the full Pembroke Dock Marine project
  • Lead on Communications for the MEW annual conference
  • Lead on communications for META events
  • Creating and posting social media content, press releases, newsletters
  • Producing marketing materials and publications, with input from the team
  • Point of contact for partners and members to relay and communicate news
  • Updating websites
  • Measuring and reporting on the performance of (digital) communications
  • Coordinate media activities
  • Using and helping manage contact databases
  • Building and maintaining relationships with key stakeholders
  • Support Communications Manager and wider PCF team in delivering the PCF communications plan
  • Other duties of a similar level as required

Skills and experience we are seeking include: 

Essential:

  • Experience working in communications/marketing or related field
  • Proven & relevant experience in a related sector
  • Copywriting experience
  • Well-developed interpersonal skills including excellent communication skills (verbal, written, presentation)
  • Organisational skills with experience of organising meetings and events
  • Experience of engaging and building rapport with and managing a broad range of stakeholders including community, public and private sectors
  • Proactive and self-motivated and ability to work independently, with minimal supervision & under pressure
  • Excellent IT skills including social media, WordPress, CRM, design tools
  • Current driving licence / own vehicle in order to attend remote meetings
  • Inspired by PCF’s Vision, Mission and Values

Desirable:

  • Strong interest in sustainability and renewable energy projects
  • Qualification in marketing/communications
  • Ability to speak Welsh
  • Facilitation and stakeholder engagement experience

The ability to travel to meetings/events/site visits etc. is a necessary and regular feature of this post. Own transport required.

The post will involve occasional evening and weekend working.

Job descriptions and person specifications are subject to change from time to time to remain in line with business needs. PCF use a flexi-time/toil work policy. We currently expect team members to be in the office for 2 days/week.

Application Deadline: Monday 19th June 12:00 noon 2023 
Start Date: ASAP

Click here to download the application form in English
Click here to download the application form in Welsh
Click here to download the equal opportunities form in English
Click here to download the equal opportunities form in Welsh

Please state the position you wish to apply for and complete and return the application and equal opportunities forms to Emma Lewis – emma.lewis@pembrokeshirecoastalforum.org.uk

Interested? Well, here’s a little more about us….

Established in 2000, Pembrokeshire Coastal Forum (PCF) is an award winning Community Interest Company that works to enhance the coast and marine environments for current and future generations. As a coastal partnership PCF has developed a range of collaborative projects, often viewed as sustainable best practice, including Marine Energy Wales and the Marine Energy Test Area.

At PCF we inspire, collaborate and deliver solutions for sustainable coastal communities through a collaborative portfolio of work. PCF works at multiple levels providing strategic advice and delivering on community based activity to international project delivery. Work is wide ranging including stakeholder engagement, market research, curriculum linked marine education and project development.

Marine Energy Wales is a long standing programme of PCF, bringing together technology developers, the supply chain, academia and the public sector to establish Wales as a global leader in sustainable marine energy generation, making a significant contribution to a low carbon economy.

META – Marine Energy Test Area, is managed by PCF as part of the MEW programme. These eight consented test sites help reduce the time, cost and risks faced by marine energy developers in order to accelerate growth in the sector.


Rydyn ni’n llogi – Cydlynydd Cyfathrebu – Ynni’r Môr

Bydd y rôl gyffrous hon yn canolbwyntio’n bennaf ar ein portffolio ynni’r môr ond bydd hefyd yn cefnogi ein gwaith arfordirol ehangach

Oriau gwaith: 0.8 FTE – yn agored i drafodaeth
Cyflog: £28,000-£30,000 FTE
Buddion: Cynllun pensiwn, Healthshield, Amser i ffwrdd yn gyfnewid am oriau ychwanegol a weithiwyd
Hyd y Contract: Llawnamser, 12 mis i ddechrau, gyda’r bwriad i’r rôl hon ddod yn un barhaol
Yn atebol i: Rheolwr Cyfathrebu
Lleoliad: Pier House, Pier Road, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6TR Gweithio hybrid ar hyn o bryd
Yn gweithio gyda: Tîm Ynni Môr Cymru (MEW), Rheolwr Gyfarwyddwr

Prif Gyfrifoldebau

Byddwch yn gweithio gyda thîm Ynni Môr Cymru i roi’r cynllun cyfathrebu ar waith, gan sicrhau bod cyfathrebiadau’n cael eu cyflwyno’n gyson i’n rhanddeiliaid a’n haelodau gan sicrhau cyfathrebu effeithiol ar ddigwyddiadau, cyfarfodydd, cynadleddau, yn ogystal â newyddion a pholisi strategol ac aelodau.

Byddwch chi’n gyfrifol am gyflawni’r strategaeth farchnata a chyfathrebu ar gyfer ein prosiect Ardal Profi Ynni’r Môr (META) a gafodd gydsyniad ymlaen llaw, gan sicrhau bod negeseuon yn cael eu cyflwyno’n effeithiol i gynulleidfaoedd targed.

Mae hon yn rôl gyflym, gymhleth ac amrywiol, gyda chylch gwaith eang, gan gynnwys y cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus, digwyddiadau a chynnwys marchnata ac mae’n allweddol i swyddogaeth Ynni Môr Cymru. Byddwch yn ganolog i’r holl weithgareddau, newyddion, prosiectau a chynlluniau a bydd angen i chi reoli eich amser eich hun i gynhyrchu canlyniadau prosiect dyddiol, wythnosol a misol.

Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu ymdopi â gofynion prosiectau lluosog ac ymateb yn gyflym wrth gadw gafael ar y darlun ehangach a’n helpu i gyflawni ein hamcanion.

Bydd tasgau yn cynnwys:

  • Gweithredu a datblygu cynlluniau cyfathrebu META ac MEW
  • Cydgysylltu â phartneriaid prosiect Hwb Morol Doc Penfro i sicrhau cynrychiolaeth META a hyrwyddo prosiect Hwb Morol Doc Penfro yn llawn
  • Arwain ar Gyfathrebu ar gyfer cynhadledd flynyddol MEW
  • Arwain ar gyfathrebu ar gyfer digwyddiadau META
  • Creu a phostio cynnwys cyfryngau cymdeithasol, datganiadau i’r wasg, cylchlythyrau
  • Cynhyrchu deunyddiau marchnata a chyhoeddiadau, gyda mewnbwn gan y tîm
  • Pwynt cyswllt ar gyfer partneriaid ac aelodau i gyfleu a chyfathrebu newyddion
  • Diweddaru gwefannau
  • Mesur ac adrodd ar berfformiad cyfathrebu (digidol)
  • Cydlynu gweithgareddau’r cyfryngau
  • Defnyddio a helpu i reoli cronfeydd data cyswllt
  • Meithrin a chynnal perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol
  • Cefnogi’r Rheolwr Cyfathrebu a’r tîm PCF ehangach i gyflawni’r cynllun cyfathrebu PCF
  • Dyletswyddau eraill o lefel debyg yn ôl y gofyn

Mae’r sgiliau a’r profiad yr ydym yn chwilio amdanynt yn cynnwys

Hanfodol:

  • Profiad o weithio ym maes cyfathrebu/marchnata neu faes cysylltiedig
  • Profiad wedi’i brofi a pherthnasol mewn sector cysylltiedig
  • Profiad o ysgrifennu copi
  • Sgiliau rhyngbersonol datblygedig gan gynnwys sgiliau cyfathrebu rhagorol (llafar, ysgrifenedig, cyflwyniad)
  • Sgiliau trefnu gyda phrofiad o drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau
  • Profiad o ymgysylltu a meithrin perthynas ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys y sectorau cymunedol, cyhoeddus a phreifat, a’u rheoli
  • Person rhagweithiol a hunan-gymhellol gyda’r gallu i weithio’n annibynnol, heb fawr o oruchwyliaeth ac o dan bwysau
  • Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, WordPress, CRM, offer dylunio
  • Trwydded yrru gyfredol/cerbyd eich hun er mwyn mynychu cyfarfodydd o bell
  • Wedi’ch ysbrydoli gan Weledigaeth, Cenhadaeth a Gwerthoedd PCF

Dymunol:

  • Diddordeb cryf mewn prosiectau cynaladwyedd ac ynni adnewyddadwy
  • Cymhwyster mewn marchnata/cyfathrebu
  • Y gallu i siarad Cymraeg
  • Profiad o hwyluso ac ymgysylltu â rhanddeiliaid

Mae’r gallu i deithio i gyfarfodydd/digwyddiadau/ymweliadau safle ac ati yn nodwedd angenrheidiol a rheolaidd o’r swydd hon. Mae angen cludiant eich hun.

Bydd y swydd yn cynnwys gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd.

Gall swydd-ddisgrifiadau a manylebau y person newid o bryd i’w gilydd i aros yn unol ag anghenion busnes.

Mae PCF yn defnyddio polisi amser hyblyg/toil. Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl i aelodau’r tîm fod yn y swyddfa am 2 ddiwrnod yr wythnos.

Dyddiad Cau Ceisiadau: Dydd Llun 19 Mehefin 12pm hanner dydd 2023
Dyddiad Dechrau: Cyn Gynted â Phosibl

Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen gais yn Gymraeg
Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen gais yn Saesneg
Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen cyfle cyfartal yn Gymraeg
Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen cyfle cyfartal yn Saesneg

Nodwch y swydd yr hoffech wneud cais amdani a chwblhewch a dychwelwch y ffurflenni cais a chyfle cyfartal at Emma Lewis – emma.lewis@pembrokeshirecoastalforum.org.uk

O ddiddordeb? Wel, dyma ychydig mwy amdanom ni …

Wedi’i sefydlu yn 2000, mae Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF) yn Gwmni Buddiannau Cymunedol sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n gweithio i wella’r arfordir a’r amgylchedd morol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Fel partneriaeth arfordirol mae PCF wedi datblygu amrywiaeth o brosiectau cydweithredol, a ystyrir yn aml fel arfer gorau cynaliadwy, gan gynnwys Ynni Môr Cymru ac Ardal Profi Ynni’r Môr.

Yn PCF rydym yn ysbrydoli, yn cydweithio ac yn darparu atebion ar gyfer cymunedau arfordirol cynaliadwy trwy bortffolio o waith cydweithredol. Mae PCF yn gweithio ar sawl lefel gan ddarparu cyngor strategol a chyflawni gweithgarwch cymunedol i gyflawni prosiectau rhyngwladol. Mae’r gwaith yn amrywio’n fawr gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymchwil i’r farchnad, addysg forol sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm a datblygu prosiectau.

Mae Ynni Môr Cymru yn rhaglen hirsefydlog o PCF, sy’n dod â datblygwyr technoleg, y gadwyn gyflenwi, y byd academaidd a’r sector cyhoeddus ynghyd i sefydlu Cymru fel arweinydd byd-eang mewn cynhyrchu ynni’r môr cynaliadwy, gan wneud cyfraniad sylweddol at economi carbon isel.

META – Ardal Profi Ynni’r Môr, a reolir gan PCF fel rhan o raglen MEW. Mae’r wyth safle profi hyn y rhoddwyd cydsyniad ar eu cyfer yn helpu i leihau’r amser, y gost a’r risgiau a wynebir gan ddatblygwyr ynni’r môr er mwyn cyflymu twf yn y sector.

No Comment

Comments are closed.